SL(5)467 – Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn (‘Gorchymyn 2019’) yn diwygio erthygl 21 o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1182) (Cy. 241) (‘Gorchymyn 2018’) er mwyn darparu ar gyfer dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad (fel y nodir yn erthygl 21).

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.)

Mae erthygl 21 o Orchymyn 2018 yn darparu ar gyfer trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad. Gall hyn ymwneud â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop. Ar hyn o bryd mae hyn yn ddarostyngedig i ddirwy nad yw'n fwy nag £20,000. Mae Gorchymyn 2019 yn diwygio hyn i ddarparu ar gyfer dirwy ddiderfyn mewn perthynas â'r drosedd hon.

Mae erthygl 22 o Orchymyn 2018 yn darparu ar gyfer y drosedd o rwystro. Mae hyn yn agored i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nid yw Gorchymyn 2019 yn diwygio swm y ddirwy yn erthygl 22.

Nid yw'r Memorandwm Esboniadol mor eglur ag y gallai fod. Ym mharagraff 4.1 mae'n nodi bod erthygl 21 yn cyfyngu ar faint y ddirwy y gellir ei rhoi “am y drosedd o beidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop, i uchafswm o £20,000.” Mae hyn yn gywir ac yn esboniad clir. Fodd bynnag, mae’n nodi ym mharagraff 4.3 y bydd Gorchymyn 2019 yn diwygio Gorchymyn 2018 “er mwyn darparu dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd yn y Gorchymyn hwn.” Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw newidiadau i'r ddirwy mewn perthynas â throsedd erthygl 22, ac felly bydd y newidiadau dim ond yn darparu ar gyfer dirwy ddiderfyn am bob trosedd a bennir yn erthygl 21 o Orchymyn 2018. Fel y mae, gallai'r esboniad hwn gamarwain y darllenydd i feddwl y bydd trosedd erthygl 22 bellach yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Mae’r Nodyn Esboniadol i Orchymyn 2019 hefyd yn datgan y bydd yn diwygio Gorchymyn 2018 “er mwyn darparu ar gyfer dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd yn y Gorchymyn hwn”, heb ddatgan bod y diwygiadau’n ymwneud â throsedd o dan erthygl 21 yn unig.

 

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw oblygiadau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Tachwedd 2019